AMDANAF I | ABOUT ME


Shwmae! F’enw i yw Alaw John ac rwy’n fyfyrwraig Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol De Cymru, ar fîn mentro i’r byd eang. Rwy’n berson positif, dibynadwy a gwydn, gyda pharodrwydd i ddysgu, â’r sgiliau yma’n fy nilyn at gynhyrchu penodau o’r safon uchaf ar bodlediad Ysbyty Ystrad Mynach, creu pecynnau radio a theledu proffesiynol, ac ennill gwobr BJTC gyda’r brifysgol.
Ar hyn o bryd rwy’n Rheolwraig Cynnwys i Ysbyty Ystrad FM, yn osgystal â chreu penodau Cymreig iddyn nhw, gan gynnwys gwersi Cymraeg a chyfweliadau.
Dwi wedi cael hyfforddiant llais, er mwyn mynegi fy hun a darllen y newyddion mewn modd proffesiynol, gwersi golygu sydd wedi fy ngalluogi i greu rhaglenni a phecynnau arbenigol, yn ogystal â’r gallu i ddefnyddio camera, arwain cyfweliadau a chadw cysylltiadau cryf rhwng pobl. Dwi wedi derbyn yr hyfforddiant gorau o fewn byd y cyfryngau, ac o ganlyniad, rwy’n gweithredu fel newyddiadurwraig broffesiynol ac effeithlon.
Hello! I’m a Journalism student from the University of South Wales, about to venture into the big, wide world. I’m a positive, reliable and resilient person, eagerly willing to learn. These array of skills have lead me to create high quality podcast episodes for Ysbyty Ystrad FM, create professional radio and television packages, and lead me to become a BJTC award winner.
I’m currently a Content Manager at Ysbyty Ystrad FM, as well as creating their Welsh language content, including Welsh lessons and interviews.
I’ve had voice training, which has enabled me to read the news professionally and express myself in a more effective way, editing lessons allowing me to create specialist episodes and packages, as well as the ability to use a camera, conduct interviews and grow my connections within the industry. I have received training from the highest standard, and as a result, am acting as a professional and effective journalist.
Cysylltwch â fi | Contact me
LISTEN ON
Apple Podcasts · Stitcher · Spotify